Cyffredinol

Cystadleuaeth Logo

Cystadleuaeth Logo Cyngor Cymuned Llanrug

Mae Cyngor Cymuned Llanrug yn edrych i foderneiddio a diweddaru ei logo presennol, oherwydd nid yw’r un presennol yn adlewyrchiad o weithgareddau, cyfrifoldebau presennol y cyngor, na’r ardal fel y mae heddiw.

Mae’r cyngor wedi creu cystadleuaeth i ddylunio logo newydd, sydd yn agored i unrhyw un sydd yn byw oddi fewn i ffiniau’r cyngor, sydd yn cynnwys Cwm y Glo a Pontrug. Mae’r cyngor yn hollol agored i syniadau a does dim amodau ar y logo.

Bydd y person sydd wedi creu’r logo a ddewisir yn derbyn taleb llyfrau o £30.

Gellir anfon ceisiadau i’r clerc at clerc@llanrug.cymru erbyn 31 o Hydref 2020 neu i’r cyfeiriad isod.

Os ydych angen rhagor o wybodaeth mae croeso i chwi gysylltu â mi.

CYNGOR CYMUNED LLANRUG COMMUNITY COUNCIL
Clerc / Clerk: Mr Meirion Jones PSLCC
7 Nant y Glyn
Llanrug
Gwynedd
LL55 4AH
Ffon: 07769 112875

Cystadleuaeth Logo
Darllenwch Fwy

Clwb Cymunedol Llanrug Ar-Lein

Mae Cyngor Cymuned Llanrug wedi prynu fewn i Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Gwynedd i ddarparu Clwb Cymunedol Llanrug Ar-Lein.

Mae’r clwb ar agor dydd Llun 14 o Fedi ar lein a gellir cael manylion sut i ymuno isod.

Clwb Cymunedol Llanrug Ar-Lein
Darllenwch Fwy

Llanrug Online Community Club

Llanrug Community Council  has purchased into Gwynedd Council’s Youth Service to provide a Llanrug Community Club.

The club will open from Monday 14 September. Please see below for joining instructions.

Llanrug Online Community Club
Darllenwch Fwy

Sedd Wag Achlysurol-Ward Llanrug

CYNGOR CYMUNED LLANRUG
SEDD WAG ACHLYSUROL-WARD LLANRUG

RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd yn ward Llanrug ar Gyngor Cymuned Llanrug.

Cynhelir etholiad i lenwi’r sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r ward uchod i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Gwener, 18 Medi, 2020.

Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Cymuned.

Meirion Jones
Clerc y Cyngor / Clerk to the Council
Dyddiedig / Dated 28 Awst / August 2020

Sedd Wag Achlysurol-Ward Llanrug
Darllenwch Fwy
Casual Vacancy- Llanrug Ward

Casual Vacancy- Llanrug Ward

LLANRUG COMMUNITY COUNCIL
CASUAL VACANCY- LLANRUG WARD

NOTICE IS HEREBY GIVEN of a casual vacancy in the office of councillor in Llanrug ward on Llanrug Community Council.

An election will be held to fill the vacancy if a request in writing for an election which includes the signatures of ten electors of the said ward is sent to: The Returning Officer, Gwynedd Council, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH within the period ending at 12 noon on Friday, 18 September 2020.

In the absence of a request for an election, the vacancy will be filled by the Community Council.

Meirion Jones
Clerc y Cyngor / Clerk to the Council
Dyddiedig / Dated 28 Awst / August 2020

Casual Vacancy- Llanrug Ward
Darllenwch Fwy
Restr cydnabyddedig o gontractwyr

Restr cydnabyddedig o gontractwyr

Mae Cyngor Cymuned Llanrug a Chwm y Glo yn chwilio am bersonau neu gwmnïau gyda profiad a’r cymhwyster priodol, fyddai a diddordeb cael eu ystyried i’w cynnwys ar restr cydnabyddedig o gontractwyr i wneud gwaith i’r Cyngor.

Mae hyn yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig) i lanhau cyffredinol, gwaith cynnal a chadw, peintio, gwaith torri coed a gwaith cerrig.

Am ragor o fanylion, os gwelwch yn dda a wnewch gysylltu a’r clerc drwy e-bost ar clerc@llanrug.cymru neu drwy ffonio 07769 112875 .

Restr cydnabyddedig o gontractwyr
Darllenwch Fwy