Grant

Cronfa Grant Ddisgresiwn ar gyfer disgyblion ysgol

Cronfa Grant Ddisgresiwn ar gyfer disgyblion ysgol

Mae’r cronfa gyda Cyngor Cymuned Llanrug i ddosbarthu arian ar gyfer teuluoedd sydd ar incwm isel. Mae mwy o fanylion ar y ffurflen gais ond gellir gwneud cais am grant os ydych yn cyrraedd y meini prawf sydd ar gefn y ffurflen gais. Os nad ydych yn sicr, yna dyech gysylltu a’r Clerc. Nid oes rhaid i chwi fod yn derbyn cinio ysgol am ddim oherwydd mae’r Cyngor yn bwrpasol wedi tynnu allan y categori o’i gyfynnu tuag at deuluoedd yma oherwydd fod rhai teuluoedd er eu bod yn gymwys am ginio ysgol am ddim, ond am wahanol resymau ddim yn ei hawlio.

Os ydych angen offer ar frys e.e. ar gyfer trip addysgiadol a’r arian ddim gan y teulu, yna fe ellir wneud trefniadau fod y Cyngor yn talu’r arian yn uniongyrchol i’r darparwr.

Un o’r amodau i fod yn gymwys am y grant ydi fod presenoldeb y plentyn yn yr ysgol yn foddhaol a bydd y Cyngor yn gwirio hyn gyda’r ysgol.

Gobeithio fod hyn yn egluro’n fras y cynllun ac rwy’n pwysleisio mai polisi disgresiwn ydi hwn ac nad oes hawl i apel.

Os oes rhywun angen mwy o wybodaeth nyna dylir cysylltu a Clerc y Cyngor (manylion cyswllt ar y ffurflen).

Ffurflen Grant

Cronfa Grant Ddisgresiwn ar gyfer disgyblion ysgol
Darllenwch Fwy