Yr Ardal

Cymuned yng Ngwynedd yw Llanrug. Saif 4 milltir i’r gorllewin o dref Caernarfon, 7 milltir i’r de o Fangor ar y briffordd A4086 rhwng Caernarfon a Llanberis sydd 3 milltir i’r gogledd orllewin. Enw gwreiddiol y pentref oedd Llanfihangel-yn-y-Grug a enwyd ar ôl yr eglwys Sant Mihangel sydd tua hanner milltir i’r gorllewin o’r pentref

Map Cymuned Llanrug

Llwybrau plwyf Llanrug

Rhowch glic yma i lawrlwytho map a manylion o’r llwybrau yn yr ardal (maint y ffeil: 32Mb)

Ystadegau Allweddol Cyfrifiad 2011

Rhowch glic yma i lawrlwytho Ystadegau Allweddol Cyfrifiad 2011 Ward Llanrug

HANES LLANRUG

Yn yr hen amser, trefgordd rydd oedd Y Rug a Llanfair Prysgol, gyda’r trigolion yn berchen ar eu lleiniau eu hunain o dir, ond yn talu treth mewn nwyddau, arian a llafur i’r arglwydd neu’r tywysog. Oherwydd hynny, doedd dim clwstwr canolog o dai yma. Hyd at rhyw bum cant o flynyddoedd yn ol roedd trigolion yr ardal yn cael eu hadnabod fel ‘hwn-a-hwn’ o Rug neu Lanfair Prysgol. Unedau gweinyddol oedd y rhain, ac felly roeddent yn cael eu hadnabod gan y Llysoedd. Uned eglwysig yn unig oedd y plwyf, sef  plwyf Sant Mihangel yn y Rug. Gyda sefydlu Deddf y Tlodion a Deddf y Priffyrdd, rhoddwyd y cyfrifoldeb o’u gweinyddu ar drigolion plwyf, ac felly unwyd Y Rug a Llanfair Prysgol i ffurfio Llan (Fihangel yn)rug.

Dechreuodd rhai o’r trigolion adeiladu tai ar y tir comin. Mae cofnod o hyn yn digwydd yn ystod y ddeunawfed ganrif, a datblygodd cnewyllyn bychan yn ardal  Bryniau Fawnog a Phwll Moelyn. Drwy’r ardal hon hefyd yr oedd y ffordd o Gaernarfon i Lanberis dros y Clegir. Caiff ei disgrifio fel “a dangerous zig-zag”, ac yn rhy gul mewn mannau i ddau geffyl fynd heibio’i gilydd. Cafodd ei lledu ychydig tua 1812.

Dyma gyfnod Cau’r Tiroedd Comin, ac yn Llanrug, oherwydd nad oedd un prif dirfeddianwr, hawliwyd rhannau o’r comin gan lawer o wahanol berchnogion tir. Erbyn dechrau’r 1830’au roedd ffordd newydd wedi ei chynllunio ar draws y plwyf i gyfeiriad Cwm y Glo. Yn naturiol, adeiladwyd tai wrth ochr y ffordd hon – y Lon Bost. Symudodd ‘canol’ y pentref i’r lle roedd llwybrau Pontrhythallt a Chrawiau yn cyfarfod y Lon Bost.

Gyda dyfodiad y rheilffordd ar ddechrau’r 1870’au, parhaodd yr adeiladu tai o Sgwar y Post ar hyd y ffordd i Bontrhythallt a’r orsaf.
Y datblygiadau hyn mewn ffyrdd a rheilffordd oedd yn gyfrifol am batrwm llinnynog y pentref. Bu’n rhaid disgwyl tan ganol y 1950’au a’r 1960’au i dai gael eu hadeiladu yn y mannau gwag rhwng yr ardaloedd hyn.

Sefydlwyd y Cynghorau Plwyf yn ….. Cyn hynny, y Festri Blwyfol oedd yn delio a materion perthnasol i drigolion y plwyf. Yn 1974 yn dilyn ad-drefniant Llywodraeth leol, diddymwyd y Cyngor Plwyf a sefydlu’r Cyngor Cymuned presennol. Collwyd rhannau o’r Clegir a glannau Llyn Padarn hyd ardal Glynrhonwy i gymuned Llanberis. Bu newidiadau hefyd yn ardal Caeathro.

HANES CWM Y GLO

Mae’n anodd credu hynny heddiw, ond roedd Cwm y Glo ar un cyfnod yn borthladd pwysig. Gan fod cyflwr y ffyrdd a’r llwybrau mor druenus roedd yn haws teithio ar ddwr. Mewn cwch o borthladd Cwm y Glo gellid rhwyfo ar hyd Llyn Bogelyn i Lynnoedd Padarn a Pheris (doedd Pont Penllyn ddim yn bod hyd tua 1826), ac osgoi’r “dangerous zig-zag” ar draws y Clegir. Yn yr un modd, deuai mwyn copr o weithfeydd Bwlch Llanberis mewn cychod i Gwm y Glo cyn cael eu cludo mewn troliau i Gaernarfon. Roedd cloddio cynnar am lechi wedi cychwyn hefyd, a cheir cofnod o rai o drigolion Cwm y Glo yn cloddio am lechi yn ystod yr haf a’u trin yn ystod y gaeaf!

Dyfodiad y rheilffordd yn 1869 roes ddiwedd ar borthladd Cwm y Glo, ond yma roedd yr orsaf bwysicaf ar y lein, yn gwasanaethu ardal eang oedd yn ymestyn i Ddeiniolen a Dinorwig.

Mae’n debyg mai’r digwyddiad pwysicaf yn hanes y pentref oedd ffrwydrad y powdwr oel (nitroglycerine) yn 1869, pan laddwyd nifer o bobl a malurio ffenestri bron pob ty yn y pentref. Arweiniodd y ddamwain at ymweliad Alfred Nobel a’r ardal i ddangos rhagoriaeth deinameit fel ffrwydryn i’w ddefnyddio yn y chwareli.

Hen Lluniau o’r ardal

Yr Ardal