Cyfrifoldebau

Cyngor Cymuned yw’r cyngor sy’n gyfrifol am gymunedau yn Nghymru. Mae’n ffurfio’r haen isaf o lywodraeth leol.

Mae roedd Cymru wedi ei rannu yn blwyfi sifil i bwrpas llywodraeth leol a seilwyd yn fras ar y plwyfi eglwysig. Oddi tan Ddeddf Lywodraeth  Leol 1972 fe ddiddymwyd y plwyfi sifil yng Nghymru (adran 20 (6)), ac yn eu lle, rhannwyd y wlad yn 869 o gymunedau (adran 27 o’r Ddeddf).

Gall pob cymuned gael Cyngor Cymuned. Nid oes rhaid i gymuned fod a Chyngor Cymuned oherwydd fod poblogaeth rhai cymunedau yn rhy fach i gynnal cyngor. Dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, gall cymuned ofyn i’r cyngor sir am gael ei grwpio gyda chymunedau eraill er mwyn dod dan un cyngor cymuned ar y cyd, cyn belled a bod y cymunedau i gyd yn yr un sir.

Gwaith y Cyngor Cymuned

Dywed Deddf Llywodraeth Leol 1972 fod pob rhan o Gymru mewn cymdeithas neu gymuned.Yn Lloegr “Cyngor Plwyf” yw’r ymadrodd o hyd ond yng Nghymru “Cyngor Cymuned” yw’r ymadrodd cyfriethiol a chyfansodiadol am yr unedau hyn o weinyddiad mewn llywodraeth leol.

Haen isaf llywodraeth leol yw’r Cyngor Cymuned ac sydd agosaf i’r cyhoedd o ran ymateb i ofynion lleol. Mae gan y Cyngor nifer o hawliau a dyletswyddau statudol. Ymysg y rhain yw gofalu am gadw llwybrau cyhoeddus yn agored i’r cyhoedd a hefyd fel Awdurdod Claddu yn gofalu am fynwent y plwyf sydd wedi lleoli wrth Eglwys Llanrug. Mae’r Cyngor yr  hawl i roi sylwadau ar geisiadau cynllunio, ynghyd a hawl i wario ar brosiectau fydd o fudd i’r gymuned,  megis ar llochesi bysiau, goleuadau ochr ffordd a biniau ysbwriel. Ceir hefyd cyfleoedd i arwain neu gymryd rhan mewn prosiectau sy’n lleol.

Beth yw strwythur  y Cyngor?

Ar y dudalen Y Cynghorwyr gweler rhestr o aelodau presennol y Cyngor sydd yn eich cynrychioli.  Mae 14 sedd ar gyfansoddiad y Cyngor sydd wedi ranu yn 3 aelod o Gwm y Glo ac 11 o Lanrug. Ar hyn o bryd nid oes yr un aelod yn cynrychioli unrhyw blaid wleidyddol ac mae’r aelodau yn rhoi eu amser er gyfer lles y gymuned. Cyflogir Clerc / Swyddog Ariannol gan y Cyngor i ddelio â’r holl drefnu cyfarfodydd a llunio agenda i ddelio gyda’r cofnodion a`r materion ariannol a gweinyddol o gario allan gwaith y Cyngor.

Sut mae’r Cyngor yn gweithio?

Bydd unrhyw waith gan y Cyngor yn digwydd ar ôl penderfyniadau mewn cyfarfodydd agored. Telir am unrhyw waith gydag arian cyhoeddus a ddaw i’r Cyngor drwy godi praesept sydd yn elfen o Dreth y Cyngor.

Beth yw praesept y Cyngor ?

Ar gyfer 2017 / 2018 mae praesept y Cyngor yn £31,000. Defnyddir y praesept i ariannu ystod eang o waith, er engraifft i wella safon y mynwentydd ac atgyweirio llochesi bws. Cyflogir un gweithiwr rhan amser, sef y Clerc, ac mae’r Cyngor yn prynu arbenigwyr o dro i dro i gynnal a chadw y mynwentydd, torri gwair, cynnal y llwybrau ac yn y blaen. Mae’r praesept yn 2017 /2018 yn £27.48 i eiddo (Band D) yn cynrychioli 1.81% o fil llawn y Dreth Cyngor.

All y cyhoedd ddod i’r cyfarfodydd?

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i’n cyfarfodydd fel gwrandawyr yn unig – a byddem yn annog hyn. Nid oes hawl i’r cyhoedd fod yn rhan o drafodaethau’r Cyngor a ni roddir hawl iddynt leisio barn yn ystod y cyfarfod – fodd bynnag gall amgylchiadau arbennig ganiatáu’r cadeirydd i alw am gyfraniad oddi wrth y cyhoedd ac iddynt wneud datganiad. Byddwn yn cyfarfod unwaith y mis yn arferol ar y trydydd Dydd Mawrth o’r mis. Fe gynhelir y cyfarfodydd bob yn ail, nail ai yn y Sefydliad Coffa, Llanrug neu yn Ysgol Gynradd Cwm y Glô.

Cyfarfod Blynyddol

Mae dyletswydd cyfriethiol gan y Cyngor oddi tan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i gynnal cyfarfod blynyddol ac hynny ym mis Mai. Y Cyngor sydd yn penderfynu ar y dyddiad. Eitem cyntaf ar y rhaglen fydd ethol Cadeirydd y Cyngor Cymuned am y deuddeg mis nesaf a chyflwyno datganiad o dderbyn swydd ac yna ethol Is-gadeirydd ac ethol cynrychiowyr ar is-bwyllgorau.

Ethol

I fod yn gymwys i swydd cynghorydd , rhaid i berson fod heb eu anghymwyso dan y gyfraith, yn ddeiliad Prydeinig, ac  wedi cyrraedd 21 oed.

Rhaid i’r  ymgeisydd hefyd  fod yn:

  • Etholwr llywodraeth leol
  • fod drwy gydol deuddeg mis cyn y dyddiad ethol yn meddiannu fel tenant neu berchen ar ryw dir neu adeiladau yn y cylch  neu’n ddinesydd hyn
  • fod a’i brif, neu unig le gweithio, yn y deuddeg mis cyn ethol, yn y cylch
  • fod yn byw drwy gydol y deuddeg mis hwnnw yn y cylch , neu o fewn tair milltir i’r cylch
Cyfrifoldebau