Newyddion & Hysbysebion

Cystadleuaeth Arwyddion

Cystadleuaeth Arwyddion Cyngor Cymuned Llanrug

Mae’r cyngor wedi creu dwy gystadleuaeth i ddylunio arwyddion i’w lleoli o amgylch yr ardal i annog gyrwyr i arafu. Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un sydd yn byw oddi fewn i ffiniau’r cyngor, sydd yn cynnwys Cwm y Glo a Pontrug.

Bydd y person sydd wedi creu’r arwydd a ddewisir yn derbyn taleb llyfrau o £30.

Gellir anfon ceisiadau i’r clerc at clerc@llanrug.cymru erbyn 31 o Hydref 2020 neu i’r cyfeiriad isod.

Os ydych angen rhagor o wybodaeth mae croeso i chwi gysylltu â’r clerc neu unrhyw aelod o’r cyngor.

CYNGOR CYMUNED LLANRUG COMMUNITY COUNCIL
Clerc / Clerk: Mr Meirion Jones PSLCC
7 Nant y Glyn
Llanrug
Gwynedd
LL55 4AH

Cystadleuaeth Arwyddion