Newyddion & Hysbysebion

Cystadleuaeth Logo

Cystadleuaeth Logo Cyngor Cymuned Llanrug

Mae Cyngor Cymuned Llanrug yn edrych i foderneiddio a diweddaru ei logo presennol, oherwydd nid yw’r un presennol yn adlewyrchiad o weithgareddau, cyfrifoldebau presennol y cyngor, na’r ardal fel y mae heddiw.

Mae’r cyngor wedi creu cystadleuaeth i ddylunio logo newydd, sydd yn agored i unrhyw un sydd yn byw oddi fewn i ffiniau’r cyngor, sydd yn cynnwys Cwm y Glo a Pontrug. Mae’r cyngor yn hollol agored i syniadau a does dim amodau ar y logo.

Bydd y person sydd wedi creu’r logo a ddewisir yn derbyn taleb llyfrau o £30.

Gellir anfon ceisiadau i’r clerc at clerc@llanrug.cymru erbyn 31 o Hydref 2020 neu i’r cyfeiriad isod.

Os ydych angen rhagor o wybodaeth mae croeso i chwi gysylltu â mi.

CYNGOR CYMUNED LLANRUG COMMUNITY COUNCIL
Clerc / Clerk: Mr Meirion Jones PSLCC
7 Nant y Glyn
Llanrug
Gwynedd
LL55 4AH
Ffon: 07769 112875

Cystadleuaeth Logo