Newyddion & Hysbysebion

Cysylltedd am ddim

CYNGOR CYMUNED LLANRUG YN CAEL CYSYLLTEDD AM DDIM GAN VODAFONE
I FYND I’R AFAEL AG ALLGÁU DIGIDOL O FEWN EI ARDAL

Heddiw, cyhoeddodd Cyngor Cymuned Llanrug y bydd yn defnyddio cysylltedd digidol am ddim, drwy gynllun ‘charities.connected’  Vodafone, i fynd i’r afael ag allgáu digidol yn yr ardal. Mae’r cyngor wedi cael 50 cerdyn SIM; bydd y cyngor yn defnyddio’r rhain i gefnogi unigolion a theuluoedd o fewn ei ardal i fynd ar-lein a chael mynediad at ei wasanaethau.

Mae cynllun ‘charities.connected’ Vodafone ar agor i unrhyw elusen gofrestredig a fyddai’n elwa o gysylltedd am ddim, naill ai i wella ei allu digidol, estyn ei wasanaethau neu helpu unigolion a theuluoedd y mae’n eu cynorthwyo i fynd ar-lein. Gall unigolion o fewn ardal Cyngor Cymuned Llanrug geisio am y cysylltedd am ddim, ar ffurf cardiau SIM gyda 40GB o ddata y mis, a galwadau a negeseuon testun am ddim, am chwe mis. I ymgeisio, cysylltwch â’r Clerc ar 07769 112875, drwy e-bost i clerc@llanrug.cymru  neu gysylltu ag unrhyw aelod o’r cyngor cymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Cadeirydd Pwyllgor Bwyd a Llesiant, Cyngor Cymuned Llanrug, a Cynghorydd Sir dros ardal Cwm y Glo,  “tra rydym wedi wynebu heriau yn ystod y pandemig, rydym hefyd wedi sylweddoli budd enfawr y gall technoleg a chysylltedd ei roi, yn ein galluogi i gyrraedd mwy o bobl, a rhoi cymorth y mae wir ei angen arnynt. Bydd y cysylltedd am ddim hwn drwy gynllun ‘charities.connected’ Vodafone yn ein helpu i barhau â’r gwaith yma.”

Dywedodd Emma Reynolds, Pennaeth Cyfathrebu, Materion Cynaliadwyedd a Rheoleiddiol, Vodafone UK:

“Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag allgáu digidol. Rydym yn gobeithio, drwy ddarparu cysylltedd am ddim i Gyngor Cymuned Llanrug ac elusennau rhagorol eraill ar draws y DU sy’n cael effaith enfawr ar eu cymunedau, gallwn helpu i greu cymdeithas ddigidol fwy cynhwysol. Rydym yn annog unrhyw sefydliad sydd o’r farn y gallent elwa i ymgeisio ar-lein ac edrychwn ymlaen at glywed sut y mae’r cysylltedd hwn wedi helpu.”

Mae cynllun charities.connected Vodafone yn rhan o’i ymrwymiad i fynd i’r afael ag allgáu digidol.

 Am fwy o wybodaeth, plîs cysylltwch gyda:

Clerc
Cyngor Cymuned Llanrug
07769 112875
clerc@llanrug.cymru

Cysylltedd am ddim