Newyddion & Hysbysebion

Datblygiad Tai yn Llanrug: Sesiwn Galw Mewn

Ydych chi’n byw’n lleol ac yn awyddus i rentu tŷ fforddiadwy newydd yn Llanrug?

Rydym wedi trefnu digwyddiad gyhoeddus i’w gynnal yn Neuadd Goffa, Llanrug ddydd Mawrth, 17eg o Fehefin.

Mae croeso i bobl alw draw unrhyw bryd rhwng 4pm a 6pm i gofrestru diddordeb lle fydd cyfle i weld cynlluniau arfaethedig ar gyfer datblygiad o 17 o dai fforddiadwy ger Ffordd Glanffynnon.

Datblygiad Tai yn Llanrug: Sesiwn Galw Mewn