Newyddion & Hysbysebion

Hysbysiad o ddyddiad penodedig ar gyfer arfer hawliau etholwyr

Hysbysiad o ddyddiad penodedig ar gyfer arfer hawliau etholwyr oddi tan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004
Cyngor Cymuned Llanrug
Diwedd y flwyddyn ariannol ar 31 Mawrth 2020

1. Dyddiad Cyhoeddi 27 Gorffennaf 2020

2. Bob blwyddyn, caiff y cyfrifon blynyddol eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson â diddordeb y cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar ôl rhoi rhybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2020, bydd y dogfennau hyn ar gael ar hysbysiad rhesymol wrth wneud cais i:

Mr Meirion Jones PSLCC
Clerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol
Cyngor Cymuned Llanrug
7 Nant y Glyn
Llanrug
Gwynedd
LL55 4AH
Ffôn: 07769 112875
E-bost: clerc@llanrug.cymru

rhwng yr oriau o 9:00 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener yn dechrau ar – 1 Medi 2020 ac yn diweddu – 28ain Medi 2020

3. O’r 29 o Fedi 2020 hyd nes y bydd yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan etholwyr llywodraeth leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
yr hawl i gwestiynu’r Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon. Gellir cysylltu â’r Archwilydd Cyffredinol drwy BDO LLP, Arcadia House, Maritime Walk, Ocean Village, Southampton SO14 3TL; a chael
yr hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwneud gwrthwynebiadau i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Yn gyntaf, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol drwy drwy BDO LLP, Arcadia House, Maritime Walk, Ocean Village, Southampton SO14 3TL Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.

4. Mae’r archwiliad yn cael ei gynnal dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014 a chod ymarfer archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Hysbysiad o ddyddiad penodedig ar gyfer arfer hawliau etholwyr