Newyddion & Hysbysebion
Christmas House Decorating Competition
Poster designed by Clwb Ieuenctid Llanrug
Archwilio pob Cofeb yn Y Fynwent
HYSBYSIAD CYHOEDDUS
Nodwch fod rhaglen ddiogelwch parhaus Cyngor Cymuned Llanrug yn cynnwys archwilio pob cofeb yn ei fynwent yn cymryd lle
WYTHNOS YN CYCHWYN 4 AWST 2025
Bydd unrhyw gofeb sydd heb fodloni gofynion iechyd a diogelwch yn cael hysbysiad a chynhaliaeth dros dro. Bydd manylion o’r camau sydd eu hangen i wneud y gofeb yn ddiogel ar gael ar hysbysfwrdd ac ar wefan y cyngor.
Er eich diogelwch, a diogelwch holl ymwelwyr â’r fynwent, PEIDIWCH Â CHEISIO profi’r cofebion eich hun. Rhaid i saer maen coffa cymwysedig ymgymryd ag unrhyw waith atgyweirio.
PERCHENNOG Y GOFEB SY’N GYFRIFOL AM SICRHAU BOD Y GOFEB MEWN CYFLWR DIOGEL
Rydym yn gwerthfawrogi eich cymorth a chydweithrediad yn sicrhau bod y fynwent hon yn le diogel i bawb ymweld â hi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglŷn â chofeb, neu’r hysbysiad yma, plîs cysylltwch gyda Chyngor Cymuned Llanrug: clerc@llanrug.cymru . Ceir mwy o fanylion am y drefn a polisi cofebion y cyngor drwy ymweld a’r wefan www.llanrug.cymru
Inspection of Cemetery memorials
PUBLIC NOTICE
Please note that Llanrug Community Council’s ongoing safety programme involving the inspection of all memorials at its cemetery will take place
WEEK COMMENCING 4 AUGUST 2025
Any memorial that has not met the health and safety requirements will be provided with a notice and temporary support. Details of the action required to make the memorial safe will be available on the noticeboard and on the council’s website.
For your safety, and that of all visitors to the cemetery DO NOT attempt to test memorials yourself. Any work to repair to memorials must be undertaken by a qualified monumental mason.
ALL MEMORIALS REMAIN THE RESPONSIBILITY OF THE OWNER TO KEEP IN GOOD SAFE ORDER
We appreciate your assistance and co-operation in ensuring this cemetery is a safe place for everyone to visit
If you have any questions or concerns regarding a memorial, or this notice, please contact Llanrug Community Council: clerc@llanrug.cymru . More information on the method used and the council’s memorial policy can be found at https://www.llanrug.cymru
Datblygiad Tai yn Llanrug: Sesiwn Galw Mewn
Ydych chi’n byw’n lleol ac yn awyddus i rentu tŷ fforddiadwy newydd yn Llanrug?
Rydym wedi trefnu digwyddiad gyhoeddus i’w gynnal yn Neuadd Goffa, Llanrug ddydd Mawrth, 17eg o Fehefin.
Mae croeso i bobl alw draw unrhyw bryd rhwng 4pm a 6pm i gofrestru diddordeb lle fydd cyfle i weld cynlluniau arfaethedig ar gyfer datblygiad o 17 o dai fforddiadwy ger Ffordd Glanffynnon.
New homes in Llanrug: Drop-in session

Do you live locally and are interested in renting a new affordable home in Llanrug?
We have arranged a public information event to be held at the Memorial Hall, Llanrug on Tuesday, 17th of June.
Come over any time between 4pm and 6pm to register your interest where it will be possible to see the intended plans for the proposed development of 17 affordable houses near Ffordd Glanffynnon.
HYSBYSIAD AM GWBLHAU ARCHWILIAD AM Y FLWYDDYN YN GORFFEN 31 MAWRTH 2022, 2023 a 2024
HYSBYSIAD AM GWBLHAU ARCHWILIAD AC AM YR HAWL I AROLYGU’R COFNOD BLYNYDDOEDD AM Y FLWYDDYN YN GORFFEN 31 MAWRTH 2022, 2023 a 2024
Public Audit (Wales) Act 2004 Section 29
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014
1. Mae archwiliadau cyfrifon dros Cyngor Cymuned Llanrug ar gyfer y blynyddoedd Sy’n gorffen ar 31 Mawrth 2022, 2023 a 2024 wedi’u cwblhau.
2. Mae’r cofnod blynyddol ar gael i’w arolygu gan etholwyr llywodraeth leol ardal [enw’r Cyngor] trwy wneud cais at:
Meirion Jones
Clerc a Swyddog Priodol
d/o 7 Nant y Glyn
Llanrug
Gwynedd
LL55 4AH
Drwy apwyntiad YN UNIG rhwng 17:00 yp a 19:00 yh ar ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8 Mehefin 2025 a 22 Mehefin 2025 (gan eithrio gwyliau cyhoeddus), pryd y gall unrhyw etholwr llywodraeth leol wneud copïau o’r cofnod blynyddol.
3. Darperir copïau i unrhyw etholwr llywodraeth leol os gwneir taliad o
£1.00 am bob copi o’r ffurflen flynyddol
Meirion Jones
Clerc a Swyddog Priodol
Dyddiedig 7 Mehefin 2025
NOTICE OF CONCLUSION OF AUDIT FOR THE YEARS ENDED 31 MARCH 2022, 2023, 2024
NOTICE OF CONCLUSION OF AUDIT AND RIGHT TO INSPECT THE ANNUAL RETURN FOR THE YEARS ENDED 31 MARCH 2022, 2023, 2024
Public Audit (Wales) Act 2004 Section 29
Accounts and Audit (Wales) Regulations 2014
1. The audit of accounts for the Llanrug Community Council for the years ended 31 March 2022, 2023 and 2024 has been concluded.
2. The annual return is available for inspection by any local government elector for the area of the Llanrug Community Council on application to:
Meirion Jones
Clerk and Proper Officer
c/o 7 Nant y Glyn
Llanrug
Gwynedd
LL55 4AH
By appointment ONLY between17:00 pm and 19:00 pm on Mondays to Fridays from 8 June 2025 until 22 June 2025 (excluding public holidays), when any local government elector may make copies of the annual return.
3. Copies will be provided to any local government elector on payment of
£1.00 for each copy of the annual return.
Meirion Jones
Clerk and Proper Officer
Dated 7 June 2025
Ymchwil ar Gefnogaeth i Dwristiaeth
Mae Venice B. Ibañez yn fyfyriwr PhD ar ymweliad ym Mhrifysgol Bangor sy’n cynnal prosiect ymchwil ar gefnogaeth preswylwyr i dwristiaeth. Mae’r prosiect hwn yn archwilio sut mae canfyddiad preswylwyr o lywodraethu yn dylanwadu ar eu cefnogaeth tuag at ddatblygu twristiaeth. Fel preswylydd, fe’ch gwahoddir i gwblhau holiadur yr arolwg hwn, a ddylai gymryd tua 5-10 munud.
Mae’r arolwg hwn wedi’i gymeradwyo gan Bwyllgor Adolygu Moeseg Prifysgol Bangor dan Rif Cod Cyfeirio Moeseg 0695 ac mae’n cydymffurfio gyda’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR DU). Mae cymryd rhan yn wirfoddol a chewch dynnu’n ôl ar unrhyw adeg.
https://forms.office.com/e/Zb7K4mU3aE?origin=lprLink

Research on Support for Tourism
Venice B. Ibañez is currently a visiting Ph.D. student at Bangor University conducting a research project on residents’ support for tourism. The project explores how residents’ perception of governance influences their support towards tourism development. As a resident, you are invited to complete this survey questionnaire, which will take approximately 5-10 minutes.
This survey has been approved by Bangor University Ethics Review Committee under Ethics Reference Code Number 0695 and complies with UK General Data Protection Regulation (UK GDPR). Your participation is voluntary, anonymous, and can be withdrawn at any time.
https://forms.office.com/e/Zb7K4mU3aE?origin=lprLink

Cyngor Cymuned Llanrug