Newyddion & Hysbysebion

Sefyllwch fel cynghorydd

Ydi Llanrug a Cwm y Glo yn bwysig i chi?

  • A oes rhywbeth yr hoffech ei wella yn Llanrug a Cwm y Glo ar gyfer ei drigolion?
  • Ydych yn caru eich ardal ble rydych yn byw?
  • A ydych yn barod i wneud penderfyniadau heriol?

Os felly, ydych wedi ystyried sefyll fel cynghorydd? Mae’r Cyngor yn awyddus i lenwi dwy sedd wag, i gynrychioli Llanrug.

Beth ydi Cyngor Cymuned?

Hwn yw’r haen o lywodraeth leol sydd agosaf at y bobl. Mae’n chwarae rôl bwysig drwy gynrychioli buddiannau’r gymuned mae’n wasanaethu, drwy weithredu i wella ansawdd bywyd, yr amgylchedd ac i ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion lleol. Mae’r cyngor yn codi’r rhan fwyaf o’i incwm drwy godi ‘praesept’, sef swm a gesglir o’r dreth gyngor bob blwyddyn.

Beth mae Cyngor Cymuned Llanrug yn ei wneud?

  • cynnal a chadw dau faes chwarae yn Llanrug (Nant y Glyn a Pwll Moelyn),
  • cynnal a chadw dau faes chwarae yn Cwm y Glo (Dolafon a Allt Goch)
  • parc sglefrio Cwm y Glo;
  • cyfrifoldeb am gyd gordio a gosod 4 diffibriliwr oddi fewn i’r ardal;
  • cadw’r clwb ieuenctid ar agor yn Llanrug;
  • gofalu am y maes parcio ger y Spar;
  • cyflwyno sylwadau i Gyngor Gwynedd ar geisiadau cynllunio;
  • gofalu am gysodfannau bysiau Llanrug a Cwm y Glo;
  • gweinyddu’r cynllun o gymorth ariannol i fudiadau lleol mewn grantiau;
  • gweinyddiaeth o gynllun grant disgresiwn y Cyngor ar gyfer unigolion;
  • darparu coed Nadolig a’i goleuo yn Llanrug a Cwm y Glo;
  • cynnal a chadw’r fynwent yn Llanrug (sydd wedi ennill gwobr genedlaethol)
  • trefnu dyddiadau casglu sbwriel Llanrug a Cwm y Glo;
  • trefnu rhannu grit i drigolion yn ystod y gaeaf;
  • cynnal gwefan y cyngor;
  • cynnal a chadw llwybrau cyhoeddus yr ardal
  • torri gwair o flaen ystadau
  • gweithredu’r cynllun dosbarthu bwyd

I’ch ystyried fel aelod o’r Cyngor rhaid bod yn ddinesydd Prydeinig, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

  • wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
  • yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf.

Mae rhai pobl penodol wedi’u hanghymhwyso rhag ymgeisio, yn eu plith swyddogion cyflogedig y Cyngor, unrhyw un sy’n destun gorchmynion cyfyngu methdalwyr a’r rheiny sy’n destun dedfrydau o garchar yn ddiweddar.

Gellir cael mwy o fanylion drwy gysylltu a Mr Meirion Jones, Clerc y Cyngor, ar 07769 112875 neu drwy e-bost at clerc@llanrug.cymru neu unrhyw un o aelodau presennol y cyngor.

Os ydych a diddordeb, dylech yn y lle cyntaf anfon nodyn o ddatganiad diddordeb at glerc y cyngor.

Sefyllwch fel cynghorydd