Newyddion & Hysbysebion

Cystadleuaeth Nadolig 2022

Cyfle i ennill gwobr am addurno’ch ffenest neu o flaen eich tŷ!

Mae Cyngor Cymuned Llanrug yn rhedeg y gystadleuaeth boblogaidd eto eleni ar gyfer y tŷ mae’n ystyried sydd â’r addurniadau Nadolig gorau oddi fewn i’w ardal. Os am gystadlu, bydd angen i ymgeiswyr dynnu llun o’i addurniadau a’i anfon drwy e-bost at clerc@llanrug.cymru gan gofio nodi eich enw a cyfeiriad. Bydd y gystadleuaeth ar agor hyd 13 Rhagfyr 2022.

Bydd yr enillydd yn derbyn taleb gwerth £50, yr ail yn taleb o £30 a’r trydydd taleb o £20 o siop gig Wavell’s.

Dymunwn Nadolig dedwydd i bawb.

Cystadleuaeth Nadolig 2022