Newyddion & Hysbysebion

Adroddiad Blynyddol 2024-2025

Adroddiad Blynyddol 2024-2025

Rhagarweiniad gan y Cynghorydd Rhys Parry, Cadeirydd y Cyngor

Fel eich cadeirydd am y flwyddyn 2024/2025 dymunaf ddiolch i Meirion ein clerc am ei holl waith. Diolch i’m cyd gynghorwyr am eu holl Waith parhaus yn gweithredu’r praesept er budd y gymuned ag yn hynod ffodus cael grŵp o gynghorwyr sydd ar hyn o bryd yn fychan ond hynod o weithgar. Yn ystod y flwyddyn diweddar yr ydym yn ffodus ein bod hefyd yn cael ein cynorthwyo gan wirfoddolwyr o’r gymuned sydd yn gwneud Llanrug yn le gwerth chweil i fyw. Mae Cyngor Cymuned Llanrug yn gyngor gweithgar dros ben ac yn cyflawni llawer iawn allan o’r praesept ag yn gydwybodol wrth ymateb i bryderon a heriau a oedd yn codi ben megis ceisiadau cynllunio dadleuol. Mae’n bleser hefyd ein bod wedi medru rhoi dau Diffib yn yr ardal gan gydweithio ag ymateb i gais trigolyn a oedd yn angerddol am gael Diffib yn Crawia. Rydym wedi bod yn rhagweithiol yn ymateb i bryderon trigolion yn pryderu am ddyfodol tir hen dy yr ysgol gynradd fel esiampl. Bydd hefyd le i ni fel cyngor cymuned fod yn lais i’r gymuned wrth siapio’r dyfodol megis datblygiadau tai, dyfodol hen ysgol Cwm y Glo a llawer mwy. Yn ystod y flwyddyn y gobaith yw bydd llawer o gydweithio a chyfathrebu clir gyda aelodau etholedig Cyngor Gwynedd, sefydliadau eraill ag yn bwysicaf oll trigolion a busnesa u / mudiadau lleol. Rydym yn edrych ymlaen i brosiect yn y Fynwent cael ei wireddu a fydd yn sicrhau dyfodol glir a cynaliadwy wrth estynna ar yr ofod gladdu. Rwyf fel Cadeirydd y Cyngor yn awyddus iawn i barhau i gyflawni er budd ein cymuned. Er mwyn medru gweithredu yn effeithiol rydym yn awyddus i gael syniadau newydd a medru herio i ymuno gyda ni. Os oes awydd, cysylltwch gyda ni.

Adroddiad Blynyddol 2024-2025

Adroddiad Blynyddol 2024-2025