Newyddion & Hysbysebion

Diffibriliwr Newydd

Mae Cyngor Cymuned Llanrug yn falch o gyhoeddi eu bod wedi gallu darparu diffibriliwr arall i’r gymuned. Mae hwn y 9fed sydd oddi fewn i’r ardal ac wedi ei leoli yn Pontrug ger y gyffordd ble rydych yn troi i’ chwith am Gaernarfon ac i’r dde am Llanrug o gyfeiriad Caeathro.

Gweler y Cynghorydd Berwyn Parry Jones (Cyngor Gwynedd) a Cynghorydd Rhys Parry (Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanrug) gyda’r diffibriliwr.

Dywedodd Y Cynghorydd Rhys Parry “Rwyf yn hynod hapus fod diffibriliwr wedi cael ei leoli yn yr ardal yn dilyn i’r cyngor adnabod yr angen am un arall yn enwedig yn yr ardal yma o’r gymuned. Yn sicr, rydym fel cyngor yn adnabod pwysigrwydd y ddyfais yma mewn amser o argyfwng. Mae pob eiliad yn bwysig mewn argyfwng o’r fath. Bydd hyfforddiant diffibriliwr yn cael ei gynnal i drigolion y gymuned yn fuan gyda’r gobaith o fedru rhoi gwybodaeth a’r hyder i ddefnyddio dyfais o’r fath os bydd yn rhaid. Hoffwn ddiolch i’r holl Gynghorwyr Cymuned am eu gwaith yn penderfynu ar safle addas i’r dyfais ag hefyd Cyngor Gwynedd am y caniatâd a gwaith sydyn a thaclus yn rhoi y dyfais yn ei le. Fel Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanrug, rwyf yn gweld effaith mae gweithgaredd o’r fath yn ei wneud i’r gymuned ag yn estyn gwahoddiad i rhywun yn y gymuned ymuno gyda ni fel cynghorydd cymuned i wasanaethu’r gymuned sydd yn agos iawn i galonnau llawer ohonoch dw i’n siŵr fel y mae i minnau

Am sgwrs ar sut i ymgeisio i fod yn gynghorydd cymuned, cysylltwch gyda’r Clerc clerc@llanrug.cymru

Diffibriliwr Newydd