Newyddion & Hysbysebion

RHYBUDD ETHOLIAD

Etholiad Cynghorydd dros Ranbarth Etholiadol Llanrug

Cynhelir etholiad am UN Cynghorydd Sirol dros Ranbarth Etholiadol Llanrug

Rhaid cyflwyno Papurau Enwebu i’r (Dirprwy) Swyddog Canlyniadau yn CYNGOR GWYNEDD, SWYDDFA’R CYNGOR, STRYD Y JÊL, CAERNARFON ar unrhyw ddiwrnod gwaith ar ôl dyddiad y rhybudd hwn ond heb fod yn ddiweddarach na 4.00pm ar DDYDD GWENER 26 CHWEFROR 2021.

Gellir cael Ffurflenni Papur Enwebu oddi wrth y (Dirprwy) Swyddog Canlyniadau a bydd yn barod ar gais unrhyw etholwr o’r rhanbarth etholiadol i baratoi papur i’w lofnodi.
Os bydd etholiad, cynhelir y pleidleisio ar DDYDD IAU 25 MAWRTH 2021

Rhaid i geisiadau newydd am pleidlais bost neu newidiadau yn y trefniadau presennol ar gyfer pleidleisio drwy’r post gan etholwyr neu eu dirprwyon sydd eisoes â phleidlais bost am gyfnod amhenodol neu benodol, gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn fan bellaf 5pm ar Ddydd Mercher, 10 Mawrth 2021.

Rhaid i geisiadau newydd ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy, gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn fan bellaf 5pm ar Ddydd Mercher 17 Mawrth 2021 os ydynt i fod yn effeithiol ar gyfer yr etholiad hwn.

Dilwyn O. Williams
Swyddog Canlyniadau
Cyngor Gwynedd , Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH
Dyddiedig y 18fed Chwefror 2021
01286 679291 – etholiad@gwynedd.llyw.cymru

Rhybudd Etholiad

RHYBUDD ETHOLIAD