Newyddion & Hysbysebion

Cystadleuaeth Nadolig 2023

CYSTADLEUAETH NADOLIG 2023

Cyfle i ennill gwobr am addurno’ch ffenest neu o flaen eich tŷ!

Mae Cyngor Cymuned Llanrug yn rhedeg ei gystadleuaeth boblogaidd eto eleni ar gyfer y tŷ mae’n ystyried sydd â’r addurniadau Nadolig gorau oddi fewn i’w ardal. Gellir cystadlu drwy anfon eich enw a cyfeiriad llawn at clerc@llanrug.cymru , neu drwy neges destun at 07769 112875, neu gysylltu ag unrhyw aelod o’r cyngor cymuned. Bydd y gystadleuaeth ar agor rhwng 1af  a’r 10fed o Rhagfyr 2023, gyda beirniadu yn cymryd lle wythnos 11 o Rhagfyr 2023.

Bydd yr enillydd yn derbyn taleb gwerth £50, yr ail yn daleb o £30 a’r drydedd daleb o £20 o siop gig Wavell’s. Bydd pob ymgeisydd yn derbyn rhodd.

Dymunwn Nadolig dedwydd i bawb

Cystadleuaeth Nadolig 2023