Newyddion & Hysbysebion

Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr

Atodiad 4 – Hysbysiad archwilio

Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
CYNGOR CYMUNED LLANRUG

Blwyddyn ariannol yn dod i ben ar 31 March 2023

1. Dyddiad cyhoeddi 1 MEHEFIN 2023

2. Bob blwyddyn, archwilir y cyfrifon blynyddol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae unrhyw berson â diddordeb yn cael cyfle i archwilio a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac yn y blaen sy’n ymwneud â hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol ar gais i:

Y Clerc
7 Nant y Glyn
LLANRUG
Gwynedd
LL55 4AH

Neu drwy drefniadau eraill drwy clerc@llanrug.cymru

Rhwng yr oriau o 17:00 a 20:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener
Yn dechrau ar 3 Gorffennaf 2023
Ac yn dod i ben ar 28 Gorffennaf 2023

3. O 11 Medi 2023, hyd nes y bydd yr archwiliad wedi ei gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:

yr hawl i holi’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r cyfrifon.
yr hawl i ddod gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a mynegi gwrthwynebiad i’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf. Rhaid rhoi copi o’r rhybudd ysgrifenedig hefyd i’r Cyngor.

Rhybudd Archwilio 22-23

Hysbysiad pennu’r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr