Newyddion & Hysbysebion

Rhybudd Torchau – Mynwent Llanrug

Mynwent Llanrug

Dymuna’r cyngor ddwyn i’ch sylw reol 9.1 a 9.2 o reolau’r fynwent isod

9.1 Fe ddisgwylir i dorchau sydd wedi gosod ar gyfer amgylchiadau arbennig, e.e. Sul y Blodau, Sul y Mamau, Sul y Tadau, y Nadolig a’r Pasg, gael eu clirio ar ôl 14 diwrnod gan y teulu. Os na fydd y teulu yn gallu gwneud hyn, mae’r cyngor yn dal yr hawl i’w clirio a’i gwaredu heb unrhyw gysylltiad â’r teulu os byddant yn dirywio.

9.2 Ar gyfer pob achlysur arall, fe ddisgwylir i’r teulu waredu unrhyw dorchau neu deyrngedau blodau ar ôl 14 diwrnod. Os bydd y blodau yn dirywio, mae’r cyngor yn dal yr hawl i’w gwaredu heb unrhyw gysylltiad â’r teulu.

Gwerthfawrogi’r eich cydweithrediad

Cyngor Cymuned Llanrug

Rhybudd Torchau – Mynwent Llanrug