Newyddion & Hysbysebion

Ymgynghoriad – Lleoli Gysgodfa Bws

Mae Cyngor Cymuned Llanrug wedi derbyn cais i ddarparu dau gysgodfa bws yn Llanrug. Un wedi leoli ger Glyntwrog a’r llall wrth ymyl yr Ysgol Gynradd.

Mae’r cyngor yn awyddus i gasglu barn trigolion lleol a defnyddwyr, ac mae’n ymgynghori gyda trigolion i geisio eu barn ar gyfer lleoli yr un cyntaf. Y gobaith yw gosod un cyn diwedd Mawrth 2024 a’r ail ar ôl mis Ebrill.

Dyma gyfle i chwi leisio barn ar pa safle fyddech yn dymuno gweld y gysgodfa bws yn gyntaf.

Gellir mynegi eich dymuniad drwy nifer o ffyrdd:

A) Anfon e-bost at clerc@llanrug.cymru
B) Drwy neges testun at 07769 112875
C) Drwy gysylltu ac unrhyw aelod o’r cyngor cymuned

Dylai eich neges ddweud naill ai Glyntwrog neu Ysgol Gynradd.

Bydd yr ymgynghoriad yn para tan 17:00 8fed o Fawrth 2024.

Ymgynghoriad – Lleoli Gysgodfa Bws